Teitl y project: Optimeiddio Systemau Ciwio
Code: GP2122A
Goruchwyliwr: Dr Geraint Palmer
Disgrifiad:
Fe ellir modelu systemau ciwio mewn gwahanol ffyrdd, yn analytig trwy ddiffinio cadwynau Markov, neu trwy efelychiad cyfrifiadurol. Mae’r dulliau hyn hefyd yn gallu cael eu hymestyn a’u defnyddio ar gyfer optimeiddio. Gallwn ymestyn cadwynau Markov i brosesau penderfynu Markov (Markov decision processes), a’i ddatrys gyda dulliau rhaglennu deinameg (dynamic programming); a gallwch ychwanegu algorithmau dysgu atgyfnerthol (reinforcement learning) i efelychiadau cyfrifiadurol.
Bydd y prosiect hwn yn edrych ar ryw system ciwio benodol a ellir ei optimeiddio, a defnyddio’r dulliau hyn i archwilio i mewn i’r strategaethau gorau ar ei chyfer. Er enghraifft, pryd yw’r amser gorau i ychwanegu gweinyddion ychwanegol? Pryd yw’r amser gorau i ddargyfeirio cwsmer i weinydd cyflymach, ond fwy costus? Pa mor wael oes angen i’r system fod cyn gwrthod cwsmeriaid newydd?
Rhagofynion modiwlau’r ail flwyddyn: Bydd MA2601 yn ddefnyddiol iawn, ond nid yw’n hanfodol. Bydd angen fod yn gyfforddus yn defnyddio Python.
Nifer o fyfyrwyr y gellid eu goruwchwylio am y project hwn: 2